Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Ysbyty Athrofaol Cymru yn cyhoeddi rhybudd du ynghylch galw andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau?
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chyhoeddiad HSBC y byddant yn dod a’u gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn yn y Gymraeg i ben?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE
(60 munud)
NDM8396 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE’, a osodwyd ar 12 Medi 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Hydref 2023. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 31 Hydref 2023 (Saesneg yn unig).
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd dŵr
(60 munud)
NDM8397 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod carthion a gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl ollyngiadau ledled Cymru a Lloegr;
b) mai yng Nghymru y mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru a Lloegr; ac
c) mai gan bobl yng Nghymru y mae'r biliau dŵr ail uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr.
2. Yn gresynu nad yw Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd saith mis yn hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gosod targedau ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo mewn cyfraith i wella gorlifiadau;
b) cynyddu gorfodaeth a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd ac adfer cynefinoedd; ac
c) mynd i'r afael â phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon.
Gorlifiadau Stormydd Cymru: adroddiad (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r cynnydd arwyddocaol yn nifer yr afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da yng Nghymru ers 1999.
2. Yn nodi’r fframwaith cyfreithiol llym y mae cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr yn gweithio ynddo.
3. Yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU i godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a fyddai’n rhoi ein hafonydd bregus mewn mwy o risg.
4. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar systemau dŵr gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd yn naturiol a systemau draenio cynaliadwy.
b) y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero, ond yn y tymor byr, eu bod yn rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol;
rhoi mecanweithiau ar waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr;
cyflymu'r gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn gynted â phosibl.
7 Dadl Plaid Cymru - Gwrthdaro yn Israel a Gaza
(60 munud)
NDM8391 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith.
2. Yn nodi bod gan Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a phoblogaeth feddianedig Palesteina.
3. Yn condemnio ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y cyd.
4. Yn galw ar y gymuned ryngwladol i:
a) uno i geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen;
b) dwyn pwysau ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac
c) gwneud popeth o fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi llwybr diogel allan o'r rhanbarth.
5. Yn sefyll mewn undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro.
6. Yn annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y rhanbarth.
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r ymosodiadau, y trais a'r codi braw a gyflawnwyd yn ddiwahân gan Hamas yn erbyn Israel ar 7 Hydref.
2. Yn cydnabod hawl pob gwladwriaeth sofran, gan gynnwys Gwladwriaeth Israel, i amddiffyn eu hunain a'u dinasyddion.
3. Yn credu y dylid cynnal rhyfel yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi clwyfedigion sifil.
4. Yn gresynu at golli bywydau sifiliaid a chlwyfedigion yn Israel, Gaza a'r Lan Orllewinol.
5. Yn estyn cydymdeimlad dwysaf pobl ar draws Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.
6. Yn cydnabod y risgiau pellach a berir gan yr argyfwng dyngarol sylweddol yn Gaza.
7. Galw am:
a) rhyddhau gwystlon;
b) atal gwrthdaro er mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol;
c) ailagor croesfan yr Rafah i alluogi sifiliaid, gwladolion tramor, gweithwyr cymorth a chyflenwadau dyngarol i groesi heb rwystr diangen;
d) i'r gymuned ryngwladol weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n sicrhau diogelwch a ffyniant i bawb, yn seiliedig ar yr egwyddor datrysiad y ddwy wladwriaeth.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8392 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
A all gofalwyr fforddio gofalu?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023